Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Llywodraeth Leol

Rhwydweithiau Awdurdodau Unedol
Mae Awdurdodau Unedol o bob cwr o Gymru wedi adeiladu ac esblygu eu rhwydweithiau llais, fideo a data corfforaethol eu hunain dros flynyddoedd lawer er mwyn cyrraedd yr adeiladau sy'n gyfrifoldeb iddynt - yn ogystal â buddsoddi mewn cyfathrebu symudol i gefnogi cyflogedigion ar daith.

Yn draddodiadol, mae awdurdodau wedi adeiladu eu rhwydweithiau aml-gyfryngol eu hunain i gwrdd ag anghenion penodol a newidiol eu defnyddwyr. Er bod gan bob awdurdod ei ofynion unigryw ei hun, mae pob un hefyd yn rhannu llawer o dir cyffredin yn y ffordd y mae rhwydweithiau'n cael eu hadeiladu - gyda nodweddion fel diogeledd, gwydnwch a natur hollbresennol band eang.

Ysgolion
Mae wyneb addysg yng Nghymru yn newid, gyda mwy o ysgolion nag erioed wedi eu cysylltu erbyn hyn. Yn fwyaf amlwg, mae gan ddisgyblion, yn llythrennol, fyd o wybodaeth ar flaenau eu bysedd diolch i rym y Rhyngrwyd.

Ond megis dechrau yw hyn. Mewn gwirionedd, mae ysgolion bellach yn defnyddio popeth o fyrddau gwyn rhyngweithiol i gynadleddau fideo er mwyn galluogi disgyblion ac athrawon i gyfathrebu gyda'i gilydd o bell.

Gall athrawon gydweithio i ddatblygu a rhannu adnoddau, cael mynediad at wybodaeth rheoli ysgolion, olrhain cynnydd disgyblion a darparu adborth.

Canolfannau Dysgu TGCh
Mae Canolfannau Dysgu TGCh yn darparu pont bwysig rhwng ysgolion a dysgu yn y gymuned, gan roi amrywiaeth o wasanaethau, yn ogystal â mynediad i'r Rhyngrwyd, i bawb - plant, oedolion a theuluoedd cyfan.

Llyfrgelloedd
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddarparu mynediad i gyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd am ddim i'r cyhoedd ym mhob llyfrgell gyhoeddus. Erbyn hyn, bydd pobl Cymru'n ymweld â'r llyfrgell bron 15 miliwn o weithiau bob blwyddyn.

  • Dros Addysg uwch
  • Dros Ofal lechyd
  • Dros sectorau erail

Design and build by Purestone, powered by Pepperio