Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Mae datblygiadau mewn technoleg rhwydweithio wedi rhoi mynediad at gyfoeth o adnoddau ac ystorfeydd dysgu arlein; ac mae adnoddau rhwydwaith yn cynnwys ebost, fideo gynadledda, negeseuon gwib a blogio wedi helpu i gysylltu grwpiau ymchwil sy'n bell oddi wrth ei gilydd yn ddaearyddol.
Rhwydweithiau presennol Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Yng Nghymru, mae gan y sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach reolaeth annibynnol dros ddatblygu a gweithredu eu rhwydweithiau lleol eu hunain (y campws) a'r rhwydweithiau ardal eang (aml-gampws).
Nes yn gymharol ddiweddar, roedd gofynion rhyng-gysylltu a Rhyngrwyd yn cael eu darparu gan ddau rwydwaith ardal eang ar wahân yng Ngogledd a De Cymru.
Mewn gwirionedd, estyniad o JANET ® oedd pob rhwydwaith rhanbarthol - sef rhwydwaith addysg ac ymchwil y DU sy'n cysylltu sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, cynghorau ymchwil, colegau arbenigol, a darparwyr addysg oedolion a chymunedol.
Cymwysiadau a Phrosiectau
Mae Rhwydwaith Fideo Cymru wedi datblygu'n gyflym i fod yn un o gyfleusterau mwyaf fideo-gynadledda mewn stiwdio yn Ewrop gyda phob sefydliad Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru yn meddu ar o leiaf un stiwdio sy'n gallu cynnal cynadleddau aml bwynt gydag ansawdd fideo a sain teledu rhithwir.
Ymchwil arbenigol
Diolch i'w gallu i gynnal band eang ar lefel uchel, mae'r rhwydweithiau hyn yn galluogi sefydliadau ymchwil i gynnwys llawer iawn o ddata ar bynciau yn amrywio o ffiseg a pheirianneg, i brosesu delweddau lloeren, gwyddor gyfrifiadurol a gwyddor iechyd.



