Gwasanaethau
Mae gwasanaethau rhwydwaith PSBA yn diwallu anghenion amrywiaeth o gwsmeriaid, o sefydliadau bach â gofynion cymharol syml, i wasanaethau neu gymunedau gwasanaeth mawr iawn sy'n defnyddio lled band uchel ac sydd ag anghenion uwch o ran TGCh, cyfathrebu a chydweithredu.
Mae rhwydwaith PSBA yn llwyfan gwybodaeth hyblyg, graddedig a thryloyw sy'n galluogi'r rhai hynny yn y sector cyhoeddus i gyflwyno'r gwasanaethau gorau am y pris gorau i bobl Cymru.
Gwasanaethau Rhwydwaith Craidd
- Lled band rhwng 1Mbps ac 1Gbps
- Mynediad i'r Rhyngrwyd a Gwasanaethau Pyrth
- Gallu aml-gast a gwasanaethau cyfeirio IP
- Gwasanaethau System Enw Parth (DNS) a chofrestrfa parth
- Hidlo Cynnwys i fodloni safonau'r Internet Watch Foundation
- Cysylltiadau diogel ag adnoddau a rennir ac er mwyn rhannu gwasanaethau
- Cyrchiad Pell
Yn y rhan fwyaf o achosion, gall defnyddwyr terfynol ddewis gofyn am wasanaethau ychwanegol ar gost y cytunir arni.
Gwasanaethau Rhwydwaith Uwch
Gall rhwydwaith PSBA, yn ogystal â'r gwasanaethau rhwydwaith craidd, ddarparu:
- Gwasanaethau waliau tân a reolir
- Gwasanaethau Cyfieithu Cyfeiriadau Rhwydweithiau Lleol (NAT)
- Adnoddau gwell i hidlo cynnwys
- Gofynion hydwythedd wedi'u teilwra
- Gwasanaethau terfynu Rhwydwaith Preifat Rhithiwr lleol
- Cymorth ar gyfer traffig sydd wedi'i Farcio'n Ddiogel hyd at CYFYNGEDIG
Gwasanaethau Proffesiynol
Er mwyn sicrhau newid esmwyth i rwydwaith PSBA, a sicrhau bod gwasanaeth y rhwydwaith yn bodloni seilwaith a safonau technegol unigol, mae ymgynghorwyr technegol ar gael i ddarparu'r gwasanaethau canlynol.
- Cyngor technegol gan gynnwys cynllunio capasiti
- Gwasanaeth ymgynghori ar ddylunio ac optimeiddio'r Rhwydwaith
- Cyngor ar weithredu offer uwch o ran Protocol Llais dros y Rhyngrwyd, dulliau cyfathrebu unedig neu ddulliau cyfathrebu fideo
