Hydref 2007: Logicalis yn ennill contract 7 mlynedd i weithredu gwasanaeth Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru
Heddiw cyhoeddodd Logicalis, darparwr rhyngwladol atebion TGCh, ei fod wedi ennill contract saith mlynedd gwerth £74 miliwn,i adeiladu a gweithredu rhwydwaith band eang aml-asiantaeth sector cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd rhwydwaith prosiect newydd Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang (PSBA) yn caniatáu i sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru, sy’n amrywio o ysbytai, prifysgolion, swyddfeydd y llywodraeth, meddygfeydd meddygon teulu, ysgolion a llyfrgelloedd, roi gwell gwerth am arian wrth ddefnyddio cyfathrebiadau band eang, yn ogystal â chynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
Gyda’r prif nod o wella effeithlonrwydd a chyflwyno ystod fawr o wasanaethau i filiynau o bobl ledled Cymru, mae’r rhwydwaith newydd yn disgwyl cefnogi 5500 o safleoedd cyhoeddus ledled Cymru. Caiff y rhwydwaith ei lansio yn Rhagfyr 2007, a bydd defnyddwyr yn trosglwyddo o’r rhwydwaith presennol yn ystod 2008.
Dywedodd Tom Kelly, rheolwr gyfarwyddwr Logicalis UK, "Rydym wrth ein bodd i gael ein dewis gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel ei phartner ar gyfer prosiect cyfathrebu mor arloesol ac uchel ei broffil".
Ynghylch Logicalis
Mae Logicalis yn ddarparwr atebion TGCh integredig rhyngwladol, sy’n cyflwyno isadeiledd a gwasanaethau cyfrifiadur a chyfathrebu diogel a chydgyfeiriedig.
Gallwn ddarparu pensaernïaeth, defnydd, integreiddio a rheoli rhwydweithiau a systemau i gynnig atebion sydd ar flaen y gad yn creu gwerth am arian i’n cwsmeriaid ac yn ateb eu hanghenion busnes nawr ac yn y dyfodol.
Mae Logicalis yn ddarparwr atebion a gwasanaethau aml-werthwr uchel ei barch sy’n gweithredu yn yr amgylcheddau busnes mwyaf cymhleth a heriol. Mae ein cysylltiadau â chyflenwyr technoleg mwyaf blaenllaw’r diwydiant, ynghyd â’n dealltwriaeth fusnes, yn eich galluogi i fuddsoddi yn hyderus.
Mae Grŵp Logicalis yn adran o Datatec Limited (DTC), grŵp rhyngwladol $3.2 biliwn a restrir ar farchnad AIM y Cyfnewidfeydd Stoc yn Llundain a Johannesburg. Â’i bencadlys rhyngwladol yn y DG, mae gan Grŵp Logicalis weithrediadau yn yr Unol Daleithiau, y DG, yr Almaen a De America. Mae Logicalis UK wedi ennill ardystiad annibynnol am ei system reoli integredig, diogelwch gwybodaeth, cynigion rheoli gwasanaethau TG a’i safonau amgylcheddol: ISO 9001; ISO 27001; ISO 20000 ac ISO14001 yn y drefn honno.
