Maint y Testun: A | A | A

Enabling Service Delivery

PSBA yn cyrraedd safonau GCSz

Mae Rhwydwaith PSBA bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig genedlaethol gan gael ei achredu gan y rhwydwaith Allrwyd Ddiogel Cyswllt Llywodraeth (GCSx). Mae'r achrediad hwn wedi'i gefnogi gan CESG mewn cydweithrediad â Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC). Mae hyn yn golygu y gall Awdurdodau Unedol yng Nghymru bellach ddelio'n uniongyrchol â DWP ac adrannau eraill o lywodraeth ganolog y DU gyda gwybodaeth o natur sensitif, fel manylion am Fudd-dal Tai. Dosberthir y math hwn o wybodaeth fel data lefel GYFYNGEDIG, a dylid ei reoli'n ddiogel fel y diffinnir yn y Canllaw ar Drin Data'n Dda a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Cabinet yn ddiweddar.

 

Design and build by Purestone, powered by Pepperio