Tachwedd 2008: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae Costau llai a chysylltiadau cyflymach gan ddefnyddio rhwydwaith PSBA yn rhoi CCGC ar y blaen
Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yw ymgynghorydd statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau'r awyr agored yng Nghymru a'i dyfroedd mewndirol.
Mae CCGC yn cefnogi amgylchedd a thirwedd Cymru a'i dyfroedd arfordirol fel ffynonellau o gyfoeth naturiol a diwylliannol, fel sylfaen ar gyfer gweithgarwch economaidd a chymdeithasol, ac fel lle ar gyfer cyfleoedd hamdden a dysgu. Ei nod yw gwneud yr amgylchedd yn rhan werthfawr o fywyd pawb yng Nghymru.
Mae pencadlys CCGC ym Mangor ac mae ganddo 13 o swyddfeydd lleol ychwanegol ledled Cymru. Mae CCGC yn cyflogi tua 500 o staff, y mae rhai ohonynt, fel Rheolwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol, wedi'u lleoli mewn swyddfeydd safle bach neu gartref.
CCGC bellach yn rhan o rwydwaith PSBA
Mae CCGC wedi ymuno â rhwydwaith genedlaethol a chymuned o ddefnyddwyr PBSA. Bydd hyn yn rhoi cysylltiad band eang i CCGC rhwng ei 14 o safleoedd ledled Cymru gan sicrhau arbedion costau sylweddol.
Drwy newid o linellau ar brydles i'r rhwydwaith a rennir, bydd CCGC yn sicrhau arbedion costau sylweddol (tua £100,000 y flwyddyn) a bydd hefyd yn mwynhau cynnydd dramatig mewn capasiti rhwydwaith (hyd at 10 gwaith i rai swyddfeydd).
Yn y gorffennol mae cyfyngiadau ar gapasiti rhwydwaith ardal eang fforddiadwy wedi golygu ansawdd gwasanaeth dwy haen i ddefnyddwyr: ni ellid cynnig rhai systemau ym mhobman ac roedd rhai swyddfeydd yn profi ansawdd gwasanaeth annerbyniol o isel. Bellach gyda chyflymdra cyswllt 4 megabit o leiaf rhwng swyddfeydd mae ansawdd y gwasanaeth y gallwn ei gynnig i ddefnyddwyr yn llawer gwell.
Heb fuddsoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhrosiect PSBA, byddai uwchraddio i'r math o rwydwaith sydd ei angen ar Gorff modern a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad wedi bod yn afresymol o ddrud.
Hyd yma mae wyth o leoliadau CCGC wedi'u symud yn llwyddiannus, gyda'r gweddill wedi'u trefnu erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r system newydd yn golygu y gellir defnyddio systemau newydd a gwell
Mae'r system newydd wedi dileu cyfyngiad mawr ar foderneiddio gweithrediadau CCGC. Bellach gellir cyflwyno cymwysiadau a systemau allweddol ym mhob un o swyddfeydd CCGC.
Cyn gynted ag yr aeth y dolenni cyntaf yn fyw roeddem yn gallu sicrhau bod ein system wybodaeth ddaearyddol a weithredir ar y we ar gael i ragor o ddefnyddwyr, roedd gwelliant ar unwaith yn safon ein system ffôn Protocol Llais dros y Rhyngrwyd, ac roedd sicrhau rhyngweithio â systemau corfforaethol yn gyflymach.
Edrych ymlaen: dilewyd cyfyngiad mawr ar y broses o gyflwyno ein System Rheoli Cofnodion a Dogfennau Electronig ymhellach; gallwn ehangu'r defnydd o fideogynadledda dros IP; a byddwn mewn safle gwell i hyrwyddo gweithio hyblyg.
Ers blynyddoedd lawer mae CCGC wedi bod yn gweithio i wella'r broses o rannu gwybodaeth, cyfuno, lleihau ein heffeithiau amgylcheddol a gwneud systemau'n haws i'w defnyddio a'u rheoli. O'r diwedd mae gennym y rhwydwaith i gefnogi'r dyheadau hynny.
Mae'r system ar gael i sefydliadau eraill y sector cyhoeddus
Mae'r rhwydwaith PSBA ar gael i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nawr fod y rhwydwaith PSBA craidd ar waith, mae'n bosibl y gall sefydliadau eraill y gwasanaeth cyhoeddus ymuno â'r rhwydwaith yn eithaf hawdd a gallent hefyd fanteisio o bosibl ar ostyngiad mewn costau a pherfformiad gwell.
