Newyddion a Digwyddiadau
-
Y broses o gyflwyno'r rhwydwaith mewn Gofal Sylfaenol yn parhau
Mae'r broses o gyflwyno'r rhwydwaith mewn gofal sylfaenol (Practisau Cyffredinol) yn parhau gyda phractisau yn cael budd o PSBA. Bellach mae dros 350 o bractisau wedi'u cysylltu â rhwydwaith PSBA.
-
PSBA yn cyrraedd safonau GCSz
Mae Rhwydwaith PSBA bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig genedlaethol gan gael ei achredu gan y rhwydwaith Allrwyd Ddiogel Cyswllt Llywodraeth (GCSx).
-
Tachwedd 2008: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae Costau llai a chysylltiadau cyflymach gan ddefnyddio rhwydwaith PSBA yn rhoi CCGC ar y blaen
-
Ebrill 2008: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sicrhau bargen band eang newydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau bargen newydd sy’n rhwystro prisiau i’n Hysgolion am eu Gwasanaethau Band Eang am hyd at saith mlynedd rhag codi.
-
Ebrill 2008: Gweithdai Rhwydwaith PSBA yn digwydd ledled Cymru
Daeth dros 100 o gynrychiolwyr o gyrff sector cyhoeddus o bob rhan o Gymru i gyfres o weithdai yn ystod Ebrill 2008. Roedd y gweithdai’n fodd i gyrff partner Rhwydwaith PSBA, darpar ddefnyddwyr, tîm prosiect PSBA a chyflenwr Rhwydwaith PSBA – Logicalis – ddod ynghyd mewn tri man yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru. Nod y gweithdai oedd rhoi i gynrychiolwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect, cadarnhau ymrwymiad ac arddangos yr hyn y gall y gwasanaeth a’r rhwydwaith ei gynnig.
-
Hydref 2007: Logicalis yn ennill contract 7 mlynedd i weithredu gwasanaeth Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru
Heddiw cyhoeddodd Logicalis, darparwr rhyngwladol atebion TGCh, ei fod wedi ennill contract saith mlynedd gwerth £74 miliwn,i adeiladu a gweithredu rhwydwaith band eang aml-asiantaeth sector cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd rhwydwaith prosiect newydd Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang (PSBA) yn caniatáu i sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru, sy’n amrywio o ysbytai, prifysgolion, swyddfeydd y llywodraeth, meddygfeydd meddygon teulu, ysgolion a llyfrgelloedd, roi gwell gwerth am arian wrth ddefnyddio cyfathrebiadau band eang, yn ogystal â chynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
