Pwy ydym ni
Mae prosiect PSBA wedi bod yn weithgaredd cydweithredu enfawr ar draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru ers ei gychwyn yn 2004. Mae hyn wedi arwain at greu Partneriaeth PSBA sef yr enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl gyrff Sector Cyhoeddus sy'n cyllido ac yn defnyddio Rhwydwaith PSBA. Mae Cyflenwr Rhwydwaith PSBA, Logicalis (UK) Ltd, hefyd yn rhan o'r bartneriaeth hon.
Darllenwch ymhellach i ddysgu am gefndir, hanes, rhesymwaith a photensial cyffrous y bartneriaeth rhwydwaith arloesol hon.
Cyflenwr y Rhwydwaith PSBA
Yn 2007, dyfarnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gontract saith mlynedd gwerth £74 miliwn i Logicalis i gyflenwi rhwydwaith band eang uchel TGCh unigryw ac unedol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru – sef y Rhwydwaith PSBA.
Mae Logicalis yn gyflenwr rhyngwladol o ddatrysiadau TGCh integredig, gan ddarparu rhwydwaith mewnol a gwasanaethau cyfrifiaduro a chyfathrebu diogel a chyfun. Mae Logicalis wedi ennill ardystiad annibynnol i’w system reoli integredig, diogeledd gwybodaeth, cynigion rheoli gwasanaethau TG a'i safonau amgylcheddol: ISO 9001; ISO 27001; ISO 20000 ac ISO14001 yn eu trefn.
Dan y contract bydd Logicalis yn darparu'r dylunio, y trefnu, yr integreiddio a'r rheoli ar gyfer y Rhwydwaith PSBA. Mae gwaith PSBA Logicalis wedi'i leoli yn eu swyddfeydd yn Nantgarw ger Caerdydd.
