Llywodraethu
Llywodraethir y prosiect hwn gan y cyrff canlynol:
- Bwrdd y Rhaglen - y bwrdd hwn yw perchennog strategol Rhwydwaith y PSBA. Mae'r Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a rheolaeth ar gyfer cyrff llywodraethol eraill. Mae'n cymryd y llyw yn strategol ar Rwydwaith PSBA fel hwylusydd ar gyfer 'gwneud cysylltiadau' ac ar gyfer cyflawni buddiannau ehangach y Rhwydwaith.
- Bwrdd Rheoli - Gan adrodd i Fwrdd y Rhaglen, mae'r Bwrdd Rheoli yn gyfrifol am reoli materion cytundebol ac ariannol Rhwydwaith PSBA drwy'r Rheolwr Prosiect/Gwasanaeth.
- Grŵp Cyflawni Gweithredol - mae'r grŵp hwn yn atebol i Fwrdd Rheoli PSBA i sicrhau cyflawniad gweithredol Rhwydwaith PSBA.
- Awdurdod Dylunio Technegol - darparu a sicrhau dyluniadau a pholisïau technegol ar gyfer Rhwydwaith PSBA. Mae hefyd yn darparu manylion ar safonau presennol, arfer gorau a chyfeiriad yn y dyfodol ar gyfer rhwydweithio rhwng Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru.
- Bwrdd Cynghori ar Newid - sicrhau y rheolir newidiadau i'r rhwydwaith yn briodol drwy adolygu'r newidiadau.
hMae tîm craidd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rheoli'r gweithgareddau a'r rhyngweithiadau amrywiol rhwng Logicalis, y cyflenwr a chleientiaid y sector, gan gynnwys datblygu, rheoli gwasanaeth, cydymffurfio, ansawdd gwasanaeth ac achredu diogelwch.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
