Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Gwasanaethau Rhwydwaith

Mae rhwydwaith PSBA yn darparu gwasanaethau i fodloni ystod amrywiol o anghenion Gwasanaethau Cyhoeddus, o grwpiau defnyddwyr bach â gofynion cymharol syml i gymunedau mawr iawn sy’n defnyddio lled band a ffwythiannaeth uchel. Daw’r gwasanaethau hyn o bob rhan o’r diwydiant telegyfathrebu i gyflwyno ateb teilwredig i bob math o ddefnyddiwr, a bydd y rhain yn datblygu yn ystod oes y rhwydwaith i fodloni anghenion sy’n dod i’r amlwg ac i fanteisio i’r eithaf ar yr atebion diweddaraf.

Mae defnyddwyr yn cael mewnwelediad unigryw i’r gwasanaeth a rheolaeth dros eu gwasanaethau drwy borth seiliedig ar y we sy’n darparu llawer o’r wybodaeth sy’n hanfodol i fusnes mae arnynt ei hangen (gan gynnwys lefelau gwasanaeth misol). Mae’r rhwydwaith yn caniatáu defnydd cymwysiadau a gynhelir, systemau llais a fideo, ac yn cyflwyno’r potensial i gydweithredu a rhannu gwybodaeth â sectorau eraill.

Mae bron pob elfen o’r rhwydwaith trwyadl hwn yn cael ei hadeiladu drwy ddefnyddio portffolio Cisco Systems – gan gynnig pensaernïaeth graidd gyffredin y gall ei hamrywiol elfennau cyfansawdd gael eu cynnal, eu hintegreiddio a’u huwchraddio’n rhwydd.

Y canlyniad yw llwyfan gwybodaeth hyblyg a thryloyw â graddfa amrywiol sy’n galluogi’r rhai yn y sector cyhoeddus i gyflwyno’r gwasanaethau gorau am y pris gorau i bobl Cymru.

Gwasanaethau isadeiledd a chefnogaeth craidd

Bydd y contractiwr (Logicalis) yn cyflenwi’r gwasanaethau canlynol fel rhan o unrhyw gytundeb gwasanaeth:

Gwasanaethau Galluogi Craidd:

  • Cyngor Technegol
  • Cynllunio Cynhwysedd
  • Mynediad o Bell
  • Gwasanaeth Ffurfweddu CPE
  • Gwasanaeth Cefnogaeth a Datrys Gwallau
  • Gwasanaethau Mynediad i’r Rhyngrwyd a Phorth
  • Profi Cymwysiadau
  • Gwasanaethau gallu amlgast IP a chyfeiriadau
  • Gweithredu newid effeithlonrwydd gan gyflwyno rhwydwaith diogel drwy ddiweddariadau ac ati
  • Gwasanaethau System Enw Parth (DNS) a chofrestru parth
  • Hidlo Cynnwys i fodloni Safonau Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd
  • Desg gymorth a datrys gwallau
  • Ymgynghoriaeth ar ddylunio ac uchafu rhwydweithiau
  • Cysylltiadau diogel ag adnoddau rhanedig ac i alluogi gwasanaethau rhanedig

PSBA Services Grid
Click the image for a larger version

Mae’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn ddiogel iawn ac yn destun adroddiad misol manwl oddi wrth y Darparwr Gwasanaethau Rhwydwaith - Logicalis – sy’n amlinellu perfformiad yn erbyn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth. Gan amlaf, bydd gan ddefnyddwyr terfynol opsiwn o ofyn am nodweddion ychwanegol am gost ychwanegol a gytunir. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Mur Gwarchod a reolir
  • Lled band cynyddol
  • Lefelau gwasanaeth gwell
  • Gwydnwch
  • Hidlo Cynnwys Gwell
  • Gwasanaethau terfynu VPN lleol
  • Cefnogaeth am draffig wedi ei farcio’n amddiffynnol hyd at GYFYNGEDIG 
  • Gwasanaethau NAT lleol
  • Contract estynedig (y dewis i estyn i gontract 5 mlynedd safonol 1 neu 3 blynedd).

Design and build by Purestone, powered by Pepperio