Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Cyflwyno gwasanaethau gwell

Yn 2008 dechreuodd y Rhwydwaith PSBA ddarparu cysylltedd cyflym iawn ar gyfer addysg yng Nghymru, yn gwasanaethu ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau dysgu TGCh a swyddfeydd corfforaethol yr awdurdodau unedol eu hunain.

Mae'r Rhwydwaith PSBA yn cysylltu defnyddwyr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru gyda'i gilydd, yn ogystal â gyda rhwydweithiau allweddol eraill yn cynnwys y Rhyngrwyd – y cyfan yn gyflym iawn.

Golyga hyn i gyd fod y rhwydwaith yn fwy na dim ond rhwydwaith ffisegol o geblau.  Mae'n blatfform cyfathrebu sy'n galluogi'r symudiad tuag at ffyrdd cwbl newydd a mwy effeithiol o addysgu, dysgu, hygyrchu a rhannu gwybodaeth - y cyfan yn cyfrannu tuag at well gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru.

Mae pawb yng Nghymru'n debyg o elwa yn sgil cymunedau sydd wedi cysylltu ac sy'n cymryd mwy o ran mewn dysgu, yn meddu ar well cymwysterau ac wedi eu haddysgu i lefel uwch.  Ar gyfer unigolion, mae gwell addysg yn arwain at well cyflogadwyaeth, llwyddiant ariannol a mwynhau bywyd yn well. I Gymru gyfan, bydd yn arwain at economi mwy cystadleuol, diwylliant mwy bywiog a chymdeithas iachach.

Bydd y rheiny ohonom sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn ennill hefyd, yn sgil y llu ffyrdd y mae band eang yn galluogi gwell cyfathrebu rhwng dinasyddion Cymru a'n llywodraethau lleol a chenedlaethol – hyn i gyd yn arwain at well darpariaeth o wasanaethau am bris rhatach.

Design and build by Purestone, powered by Pepperio