Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Cwestiynau Cyffredin

Cwmpas y gwasanaeth

Ar gam cyntaf y broses o ddarparu'r gwasanaeth, mae gwell cysylltiadau rhwydweithio ardal eang wedi'u darparu i'r canlynol:

  • GIG Cymru
  • 22 o Awdurdodau Unedol
  • Sefydliadau addysg bellach ac uwch

Mae rhwydwaith PSBA wrthi nawr yn ehangu i ddarparu gwasanaethau i amrywiaeth ehangach o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a allai gynnwys:

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru 
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Gwasanaeth y Parciau Cenedlaethol
  • Gwasanaeth amgueddfeydd
  • Unrhyw sefydliad arall sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dros Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar ei rhan neu wasanaethau cyhoeddus a ariennir ganddi.

<yn ôl i’r brig>

Cwmpas y rhwydweithio ardal-eang a gaiff ei ddarparu?

Mae gwasanaethau PSBA yn ymrannu’n ddau gategori bras o wasanaeth: Gwasanaethau Isadeiledd Craidd a Gwasanaethau Cysylltedd.

Gwasanaethau Seilwaith Craidd
Mae’r isadeiledd craidd yn cynnwys datblygu a defnyddio’r rhwydwaith ei hun a darparu gwasanaethau cefnogaeth fel desg gymorth; gwasanaeth porth; gwasanaeth monitro; adrodd; cefnogaeth bilio a dylunio technegol.  Yn fras, dyma’r gwasanaethau y bydd eu hangen ar y mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth, os nad pob un.

Gwasanaethau Cysylltedd
Mae’r gwasanaethau cysylltedd yn cael eu disgrifio fel ystod o opsiynau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a phyrth eraill. Gall y cysylltiadau hyn gael eu cyflwyno drwy gyfrwng y rhwydwaith craidd neu fel cysylltiadau pwynt i bwynt.

<yn ôl i’r brig>

Pa wasanaethau fyddaf yn eu cael?

Mae gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno i sefydliadau sy’n ddefnyddwyr terfynol yn cael eu disgrifio yn y Disgrifiadau gwasanaethau cysylltedd ond yn y bôn maent yn ystod o wasanaethau cyfathrebu a fydd yn rhoi i sefydliadau gysylltiad ffisegol â’r Rhwydwaith PSBA Craidd.  Mae’r Disgrifiadau gwasanaethau cysylltedd yn ddogfennau hunan-gynhwysol sy’n disgrifio union natur y gwasanaethau a gaiff eu cyflwyno.

Bydd y Gwasanaethau Isadeiledd Craidd yn darparu’r amlapio cysylltedd a gwasanaeth sy’n cefnogi cyflwyniad Gwasanaethau Cysylltedd. Mae hyn yn cynnwys y rheolaeth a’r gefnogaeth sy’n gadael i ddefnyddwyr o bob Sector rannu Rhwydwaith PSBA.

Yn y pen draw bydd gan bob sefydliad ddewis o ran y gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno.  Mae hyn yn caniatáu i benderfyniadau lleol ac achosion busnes gael eu datblygu yn unol â gofynion ac anghenion lleol.

Bydd dewisiadau am gynhwysedd (lled band), dibynadwyedd (argaeledd a gwydnwch), technoleg a diogelwch i gyd yn effeithio ar bris gwasanaethau.  Mae angen cydbwyso penderfyniadau o’r fath yn erbyn y gost a’r blaenoriaethau lleol.  Hefyd mae cymhellion gwleidyddol a pholisi sy’n effeithio ar y gwasanaethau sydd i’w gweithredu dros y rhwydwaith.  Yn olaf, mae cyfuniad o arian lleol ac arian canolog yn effeithio ar ble mae’r penderfyniad terfynol am ofynion gwasanaeth yn cael ei wneud a bydd hyn yn amrywio rhwng Sectorau.

<yn ôl i’r brig>

Beth fydd y gwasanaethau yn cael ei alw?

Am y misoedd cyntaf, bydd y prosiect yn dal i gael ei adnabod fel prosiect Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang (PSBA) Cymru.

Yn ystod y cyfnod cychwyn hwn, bydd y cyflenwr yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid eraill i nodi enw brand, delwedd a phresenoldeb marchnata priodol ar gyfer y gwasanaethau.

Caiff canlyniad yr ymarfer brandio hwn ei gyhoeddi wrth gychwyn cyflwyno’r gwasanaethau newydd ar ôl cyflawni cerrig milltir 2 a 3.

<yn ôl i’r brig>

A allaf brynu estyniadau LAN a gwasanaethau cyfatebol?

Gellwch.  Mae contract PSBA wedi ei sefydlu i adael i’r cyflenwr gaffael amrywiaeth o gynigion gwasanaeth cysylltedd, yn unol â gofynion y gymuned defnyddwyr.  Cysylltwch â Logicalis i gael manylion.

<yn ôl i’r brig>

Pa strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle?

Mae’r strwythurau llywodraethu wedi cael eu sefydlu i fod mor gynhwysol â phosibl i bob partner.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Bwrdd strategaeth PSBA
  • Bwrdd rheoli PSBA
  • Y tîm gweithredu a chyflwyno gwasanaeth
  • Yr awdurdod dylunio technegol
  • Y bwrdd ymgynghorol ar newid

Hefyd, y mae nifer o gymunedau a grwpiau rhanddeiliaid PSBA, gan gynnwys:

Iechyd

Fel gydag elfen gaffael PSBA, bydd Hysbysu Gofal Iechyd yn parhau i hwyluso’r symudiad at y gwasanaeth PSBA. Bydd Bwrdd Prosiect diwygiedig ac is-grŵp cysylltiol yn dod yn gyfrifol am reoli’r rhaglen fudo hon ar ran GIG Cymru, fel a ganlyn:

  • PSBA dros Iechyd – Bwrdd y Prosiect Gweithredu
  • PSBA dros Iechyd – Grŵp Rhanddeiliaid (is-grŵp Bwrdd y Prosiect)

Llywodraeth Leol

  • Is-grŵp PSBA – SOCITM – (Mae strwythur terfynol y cynrychiolwyr wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd

Addysg Uwch ac Addysg Belach

  • Is-grŵp PSBA

<yn ôl i’r brig>

Pa strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle?

Mae’r strwythurau llywodraethu wedi cael eu sefydlu i fod mor gynhwysol â phosibl i bob partner.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Bwrdd rhaglen PSBA
  • Bwrdd rheoli PSBA
  • Y grŵp cyflwyno gweithredol
  • Yr awdurdod dylunio technegol
  • Y bwrdd cynghori ar newid

Yn ogystal mae nifer o gymunedau a grwpiau rhanddeiliaid PSBA ychwanegol.

Beth fydd rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru?

Cadarnhau bod gweithgareddau adeiladu craidd Logicalis wedi’u cynllunio’n dda, gan gynnwys partneriaid fel bo’n briodol, ac ar y trywydd cywir i gyrraedd y cerrig milltir.

Adeiladu craidd a datblygu:

Cadarnhau bod gweithgareddau adeiladu craidd Logicalis yn cael eu cynllunio’n dda, gan gynnwys partneriaid fel y bo’n briodol, a’u bod yn dilyn yr amserlen i gyrraedd y cerrig milltir.

Rheoli’r gwasanaeth:

Gweithio gyda Logicalis i sicrhau bod rheoli gwasanaeth priodol sy’n gydsyniol ag ITIL yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion y contract a chan fodloni disgwyliadau’r partneriaid.

Marchnata a chyfathrebu:

  • Cyhoeddusrwydd allanol i ddyfarnu’r contract
  • Cyhoeddi’r negeseuon allweddol a’u cadw’n gyfredol
  • Negeseuon cyson i bartneriaid

Rheoli’r cyfrif:

  • Annog Sectorau newydd i ymuno
  • Cadarnhau cytundebau Cysylltu â sectorau a sicrhau eu bod yn cael eu llofnodi gan y Sefydliadau sy’n Derbyn Archebion Cychwynnol

Archebu a sefydlu cychwynnol:

  • Monitro sut mae Logicalis yn cyflawni dilysu, yn cynllunio ac yn cyflwyno’r archeb gychwynnol
  • Peilot o DSL iechyd

Profi:

  • Sicrhau bod Logicalis yn datblygu sgriptiau prawf ar gyfer profion carreg milltir, adolygu drwy’r strwythur llywodraethu a gweithredu.

Masnachol:

  • Cyfarfodydd adolygu contract
  • Gwasanaethau contractiol a gaiff eu cyflwyno
  • Model ariannol ac adrodd
  • Llifoedd cyllid
  • Derbyn, dilysu a thalu anfonebau.

Rheoli newid:

  • Darparu pwynt cyswllt ar gyfer swyddogaeth rheoli newid cyflenwr PSBA

Cynigion llywodraethu:

  • Eu tynnu o’r contract a ffynonellau eraill
  • Dogfen fel un set unigol o gynigion

Llywodraethu’r prosiect:

  • Poblogi byrddau llywodraethu
  • Sicrhau presenoldeb a chynrychiolaeth gyson

Diogelwch:

  • Sicrhau bod Logicalis yn cyflawni achrediad diogelwch

<yn ôl i’r brig>

Design and build by Purestone, powered by Pepperio