Maint y Testun: A | A | A

Ariannu

Mae prosiect ar y raddfa hon yn golygu buddsoddiad sylweddol – yr union reswm pam y bydd costau pob cydran o’r rhwydwaith yn hollol dryloyw. Yn benodol, mae’r rhain yn cynnwys:-

  • Adeiladu a rheoli gwasanaethau band eang a rhyng-gysylltiad â rhwydweithiau eraill
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid, datrys diffygion a rheoli’r gwasanaeth
  • Caffael gwasanaethau cysylltedd o’r farchnadfa delathrebu

Mae trosglwyddo i Rwydwaith PSBA eisoes yn digwydd. I rai sectorau a sefydliadau, mae’r archeb gychwynnol eisoes wedi cael ei rhoi – i eraill, mae hyn ar fin digwydd. Y naill ffordd neu’r llall, gallwn eich sicrhau bod cefnogaeth a chyngor wrth law i’ch helpu yn y broses o wneud penderfyniadau. 

Faint fydd yn ei gostio?

Mae model masnachol PSBA yn sicrhau bod costau cydrannol y gwasanaeth yn amlwg.  Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch costau:

  • Adeiladu a chynnal y gwasanaethau gwrth-dynnu a’r pyrth
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid, datrys diffygion a rheoli’r gwasanaeth
  • Caffael gwasanaethau cysylltedd o’r farchnadfa delegyfathrebu i ateb gofynion defnyddwyr

Yn ogystal, mae gan bob sector gyfle i gyflwyno’r costau hyn i’r defnyddwyr terfynol mewn amrywiaeth o ddulliau gyda thryloywder amrywiol.  Gan hynny, bydd gwir gost y gwasanaeth i’r defnyddwyr terfynol yn dibynnu ar y gwasanaeth mae ei angen ac ym mha sector mae’r sefydliad.

Serch hynny, gan fod gwasanaethau cysylltedd yn cael eu prynu mewn sympiau mawr gan y cyflenwr PSBA ar ran sefydliadau partner, y disgwyl yw y bydd costau’r gwasanaeth yn ffafriol o’u cymharu â phrisiau’r farchnad.

Mae hyn yn wir am yr Archeb Gychwynnol y mae prisiau pendant ar gael ar ei chyfer erbyn hyn. Sylwch y bydd trefniadau ariannu’n amrywio ar draws sectorau.  Os bydd eich sefydliadau chi yn dod o dan yr Archeb Gychwynnol, cysylltwch â swyddfa brosiect PSBA neu gynrychiolydd eich sector i drafod y costau’n fanylach.

Pwy fydd yn talu?

Mae ein holl sectorau partner wedi cyfrannu at un gyllideb sy’n cael ei chyd-rannu i ddarparu’r isadeiledd craidd ar gyfer y prosiect. Mae’r isadeiledd hwn yn cynnwys elfennau sy’n gyffredin i bawb, gan gynnwys datblygu a defnyddio’r rhwydwaith ei hun, gwasanaethau cefnogaeth fel desg gymorth; ynghyd â gwasanaeth porth, gwasanaeth monitro, adrodd, bilio a chymorth dylunio technegol.

Beth sy’n digwydd pan fydd sectorau eraill yn dechrau defnyddio gwasanaethau PSBA?

Mae gwasanaethau PSBA yn cael eu rheoli gan y strwythurau llywodraethu, gan gynnwys bwrdd rhaglen PSBA.  Bydd angen i’r bwrdd hwn gymeradwyo cynnwys Sectorau ychwanegol o fewn cymuned defnyddwyr PSBA.  Bydd y broses gymeradwyo hon yn cynnwys diffinio o dan ba delerau y gallai Sector newydd ymuno â’r gymuned. O ystyried y bydd prisiau uned i bob Sector yn syrthio, wrth i Sectorau newydd ddechrau defnyddio gwasanaethau PSBA, bydd y broses gymeradwyo hon yn cynnwys ystyried effaith unrhyw arbedion posibl.

Design and build by Purestone, powered by Pepperio