Maint y Testun: A | A | A

Manteision

Mae rhwydwaith PSBA yn rhwydwaith cyfathrebu cenhedlaeth nesaf gan y llywodraeth ac fe'i lluniwyd i ategu anghenion gwasanaethau cyhoeddus unigol mewn ffordd ddiogel.

Mae'n cynnal cysylltiadau llais, fideo a data, a mathau amrywiol eraill o gysylltiadau, gan ategu anghenion cyfathrebu a TGCh newydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gyffredinol.

Yn ogystal â bod yn wasanaeth cyfathrebu diogel, hyblyg a chadarn, mae rhwydwaith PSBA yn llwyfan ar gyfer arloesedd ym maes cydweithio a chydweithredu rhwng gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r manteision a ddaw i'r sector cyhoeddus drwy'r PSBA yn cynnwys:

Lleihad mewn costau cyfathrebu

Drwy gyfuno ymdrech a gwariant ar ffurf un llwyfan technoleg a reolir gan un sefydliad, gellir lleihau costau cyfathrebu cyffredinol ledled Cymru.

Nid oes angen mwyach i sectorau unigol gaffael a phrynu eu gwasanaethau rhwydweithio ardal eang eu hunain. Yn hytrach, mae pob sefydliad sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn defnyddio llwyfan technoleg sydd wedi'i ffurfio gan elfennau seilwaith cyffredin.

Drwy gydgasglu anghenion lleol, gall sectorau gwahanol ddefnyddio'r un cysylltiad rhwydwaith a lleihau eu costau cysylltu cyfun ymhellach.

Cydweithio gwell

Mae'r manteision eilaidd yn dibynnu ar amrywiaeth o brosiectau, mentrau ac adrannau eraill. Fodd bynnag, mae'r nod yn glir: cynyddu ansawdd a swm y wybodaeth a rennir ar draws sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chyflwyno gwasanaeth gwell i'w phobl.

Mae rhwydwaith PSBA yn llwyfan i arloesedd ym maes cydweithio a chydweithredu yn sector cyhoeddus Cymru.

Gall rhwydwaith PSBA fod o fudd i adnoddau cydweithredol sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn sefydliadau neu sectorau unigol drwy gysylltu pobl a systemau mewn ffordd ddiogel.

Gwasanaeth cenedlaethol cyson

Mae rhwydwaith PSBA yn cwmpasu Cymru gyfan.

Darperir pyrth hefyd i rwydweithiau JANET (ar gyfer addysg), N3 (ar gyfer iechyd) a GCSx (ar gyfer Awdurdodau Lleol). Mewn sawl ardal yng Nghymru, mae buddsoddiad yn rhwydwaith PSBA wedi arwain at wella capasiti'r rhwydwaith a'i gyrhaeddiad.

Rhwydweithio hydwyth

Mae rhwydwaith PSBA wedi'i gynllunio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus â lefelau uchel o argaeledd.

Defnyddir systemau arloesol a galluoedd trosglwyddo i ddarparu gwasanaeth cyfathrebu creiddiol sy'n hydwyth dros ben.

Ansawdd Gwasanaeth

Mae'r rhwydwaith yn ategu ansawdd gwasanaeth, gan ei gwneud yn bosibl rhoi blaenoriaeth i gymwysiadau critigol i fusnesau a thraffig sy'n sensitif i amser (fel VoIP, cymhwysiad cleient tenau a fideo) gan wneud VoIP neu ddulliau cydweithredu drwy gyfrwng fideo yn ddewis realistig a chosteffeithiol ledled Cymru.

Gwasanaeth monitro, rheoli a chymorth 24/7

Mae Logicalis, partner cyflenwi PSBA, yn darparu gwasanaeth monitro a chymorth 24/7 a Logicalis hefyd yw'r pwynt cyswllt i gwsmeriaid PSBA.

Mae adnoddau monitro rhwydwaith arbenigol yn monitro perfformiad y rhwydwaith er mwyn sicrhau ansawdd a pharhad y gwasanaeth, a gellir cael gwybodaeth amser real amdano drwy borth diogel PSBA.