Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Croeso i Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)

 

Mae rhaglen Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn weithgaredd gwasanaeth a rennir cenedlaethol ac a arweinir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda sefydliadau pwysig eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn partneriaeth sy'n creu llwyfan cenedlaethol ar gyfer gwybodaeth a chyfathrebu sy'n galluogi gwell effeithlonrwydd a chydweithio ar draws y sector cyhoeddus er mwyn darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.

 

Mae PSBA yn cyflwyno ystod eang o wasanaethau band eang, llais, fideo a data ar draws seilwaith diogel, cyflym a dibynadwy. Mae'r rhwydwaith craidd optegol mawr wedi'i gwblhau ac yn rhedeg ar 2.5Gbs, gan gysylltu iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, awdurdodau unedol a sefydliadau eraill a ariennir gan y sector cyhoeddus.

 

Dyluniwyd ac adeiladwyd y rhwydwaith sy'n cefnogi'r gwasanaethau hyn yng Nghymru i ddiwallu anghenion penodol sector cyhoeddus Cymru.

 

Logicalis, WAG, NHS, janet 

Design and build by Purestone, powered by Pepperio